Logos Multilingual Portal

Select Language



[ No Biography for this Author ]

a siarad yn blwmp ac yn blaen, weithiau rhaid gwylltio i symud pethau ymlaen
ac yn awr gwneir yr hyn a wneid gynt ‘er mwyn Duw’ er mwyn arian, hynny yw er mwyn yr hyn sydd heddiw yn sicrhau, yn anad dim, deimlad o rym ac o heddwch meddwl
carchar yw pob argyhoeddiad
carwn fywyd, nid am ein bod yn gyfarwydd â byw, ond am ein bod yn gyfarwydd â charu
dylem ddweud mai gau yw pob gwir na chafodd ei ddatgan ag o leiaf un chwarddiad
dynwared, mewn sain neu mewn syniadau, yw naw deg naw y cant o unrhyw \'waith creadigol\' - lladrad bwriadol, mwy neu lai
faint o wirionedd y gall dyn ei oddef, a faint y gall ei fentro? Mae pob dim a enillir, pob cam ymlaen mewn gwybodaeth, yn codi o fod yn ddewr, o fod yn galed arnoch eich hun, o fod yn lân eich agwedd atoch eich hun
gellir mesur y cynnydd mewn doethineb, yn fanwl, yn ôl y lleihad cyfatebol mewn dicter
gwella arddull dyn yw gwella ei ffordd o feddwl
mae argyhoeddiadau’n elynion mwy peryglus i’r gwirionedd na chelwyddau
mae beirdd yn trin eu profiadau mewn ffordd ddigywilydd: maent yn eu hescsbloetio
mae gan y ddaear groen ac mae ar y croen hwnnw afiechydon; enw un o\'r rhain yw \'dyn\'
mae pob dim a ddiffinnir gennym heddiw yn anfoesol wedi cael ei ystyried rywbryd, rywle, yn foesol. Pa warant sydd gennym na fydd hanes yn newid yn ôl?
mae wastad beth gwallgofrwydd mewn cariad. Ond mae wastad beth rheswm mewn gwallgofrwydd
mae\'r penderfyniad Cristionogol i gael y byd yn hyll ac yn ddrwg wedi peri i\'r byd fod yn hyll ac yn ddrwg
mewn unigolion, prin yw ffolineb, ond mewn grŵpiau, mewn carfannau, mewn pobloedd ac mewn cyfnodau hanesyddol, dyna\'r rheol
ni chlywn ond cwestiynau y gallwn eu hateb
ni roddaf elusen. Nid wyf yn ddigon tlawd i hynny
nid oes ffeithiau, dim ond dehongliadau
nid oes modd i hyd yn oed dy feddyliau di dy hun gael eu cyfieithu yn llwyddiannus i eiriau
paid ag ymddiried mewn syniad na ddaeth i\'r meddwl wrth gerdded
pan fo rhinwedd wedi cysgu, bydd yn deffro wedi hadfywio
pe na bai gwŷr a gwragedd yn byw gyda\'i gilydd, byddai llawer mwy o briodasau da
po uchaf y codwn yn y byd, mwyaf di-nod yr ymddangoswn i\'r rhai na allant hedfan
swydogaeth cosb yw gwella\'r cosbwr
weithiau gall dyn ddweud celwydd, ond mae\'r wep sy\'n mynd gydag ef yn dweud y gwir
’does ar bobl ddim cywilydd rhag meddyliau budr, ond mae arnynt gywilydd wrth feddwl y gallai eraill feddwl eu bod yn gallu cael y meddyliau budr hynny